Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 28 Mehefin 2017
Amser: 09.30 -
11.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4175
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Jayne Bryant AC Siân Gwenllian AC Huw Irranca-Davies AC David Melding AC Jenny Rathbone AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Louise Andrewartha (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Wendy Dodds (Ymchwilydd) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Helen Davies (Ysgrifenyddiaeth) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 138KB) Gweld fel HTML (39KB)
Cyflwynodd y Cadeirydd ei hun a Gareth Bennett AC i'r Pwyllgor.
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad bod aelod o'i deulu yn gweithio i sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru.
Nododd y Pwyllgor y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.
Clywodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a chafwyd trafodaeth ar y materion a godwyd.
Cytunodd y Pwyllgor i geisio cydweithio â deddfwrfeydd eraill y DU ar faterion sy'n ymwneud â Brexit.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fabwysiadu'r dull gweithredu hwn mewn perthynas â'i holl ymchwiliadau yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd y dylid cynnal ymchwiliad i bolisi ynni yng Nghymru.
Cytunodd y Pwyllgor i geisio cydweithio â deddfwrfeydd eraill y DU ar faterion sy'n ymwneud â pholisi ynni.
Cytunodd y Pwyllgor ar y meysydd i ofyn cwestiynau yn eu cylch yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau'r arolwg.
Trafododd y Pwyllgor y papur.